Hafan Y Rowndiau Rhanbarthol Y Rowndiau Rhanbarthol Y Rownd Derfynol Rheolau Ffurflen Gais Cysylltiadau Newyddion Texaco yn y DU Texaco Star
2009 Competition
Texaco Young Musician of Wales
English Version      
 Croeso

Croeso i gystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru 2009 Texaco

Mae Cystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru Texaco 2009 wedi dod i ben bellach, ac fe aeth y teitl i’r sielydd dwy ar bymtheg mlwydd oed, Steffan Morris. Mae yn wyneb cyfarwydd i’r gystadleuaeth gan iddo ddod yn ail ym 2007. Yn ail eleni oedd y delynores dwy ar bymtheg mlwydd oed, Anne Denholm, ac yn drydydd, a’r un oedran, Steffan Ciccotti, sy’n chwarae’r marimba. Yn gydradd wedyn oedd  Ben Creighton Griffiths, telyn a David Shaw, feiolin, y ddau yn ddeuddeg mlwydd oed.
 
Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Neuadd Dewi Sant, Caedydd, ddydd Sadwrn Mawrth 7fed,
 
Mae’r gystadleuaeth yn agored i gerddorion o dan 20 mlwydd oed ar ddyddiad y rownd derfynol ac a anwyd yng Nghymru, neu sydd wedi byw, neu astudio yng Nghymru, am gyfnod sylweddol.
 
Trefnir Cystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru Texaco gan Chevron a Chôr Meibion De Cymru, mewn cyd-gysylltiad â Cherddorfa Ffilharmonig Caerdydd.

Steffan Morris